Cwrdd â WNO
Charlotte Forfar
Graddiodd Charlotte gydag anrhydedd yn ei MA mewn Perfformiad Opera o’r Ysgol Opera David Seligman yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2022. Mae’n dysgu ar hyn o bryd gyda’r soprano Albanaidd Lorna Anderson. Gwnaeth Charlotte ei hymddangosiad gyntaf gydag Opera Cenedlaethol Cymru yn rhan o’r corws ac fel dirprwy rôl y Fam Gyntaf yn Dead Man Walking Jake Heggie yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae rhannau eraill yn cynnwys Susanna Le nozze di Figaro, Elle La voix humaine, Zerlina Don Giovanni, Miles The Turn of the Screw a Fiametta The Gondoliers. Mae hi wedi ymddangos yn nifer o neuaddau cyngerdd blaenllaw’r DU gan gynnwys; y Royal Albert Hall, Bridgewater Hall, Neuadd Dewi Sant a Neuadd y Brangwyn.