
Cwrdd â WNO
Chike Akwarandu
Mae’r bas-bariton, Chike Akwarandu yn canu gyda llawer o ddawn a deheurwydd a hefyd wedi datblygu i fod yn Gyfarwyddwr Corawl a Hyfforddwr Lleisiol ardderchog. Mae Chike wedi perfformio fel unawdydd mewn nifer o gyngherddau, oratorios ac operâu yn Nigeria ac yn rhyngwladol. Cafodd Trwydded a Diploma o Trinity College of Music Llundain yn 2010 ac yn 2012 yn y drefn honno. Yr oedd hefyd yn Feistr Corws ar gyfer y Pegasus Opera Company rhwng 2017 a 2020.
Gwaith diweddar: Unawdydd yn Te Deum Dvořák (Barnet Music Society); Symffoni Rhif 9 Beethoven (Lambeth Youth Orchestra); Messiah Handel (HACS Philharmonia Chorus/Philharmonic Orchestra)