Cwrdd â WNO

Christina Gansch

Mae’r soprano Awstriaidd Christina Gansch yn enillydd y Wobr Kathleen Ferrier 2014 ac fe raddiodd o’r Royal Academy of Music a’r Mozarteum yn Salzburg. Yn 2021, cynrychiolodd Christina Awstria yn rownd derfynol Cystadleuaeth Canwr y Byd Caerdydd y BBC. Ymddangosodd Christina hefyd yn y Glyndebourne Festival; Teatro alla Scala, Milan; Hamburgische Staatsoper; Bayerische Staatsoper, Munich a Deutsche Staatsoper, Berlin.

Gwaith diweddar: Pamina Die Zauberflöte, Zerlina Don Giovanni a Servilia La clemenza di Tito (ROH); Lenio The Greek Passion, Servilia a Phumed Morwyn Elektra (Salzburger Festspiele); Zerlina Don Giovanni (San Francisco Opera; Opéra national de Paris); Pamina Die Zauberflöte (Opéra national de Lorraine).