
Cwrdd â WNO
Christoph Poppen
Arweinydd, unawdydd, cerddor siambr a hyfforddwr: mae Christoph Poppen wedi ennill enw da iddo’i hun mewn amrywiaeth o rolau yn y byd cerddoriaeth, gan ennill llu o wobrau ar hyd y ffordd. Y tymor hwn, mae Christoph Poppen yn parhau i gydweithio’n agos, ac yn llwyddiannus iawn, gyda’r Kölner Kammerorchester fel Prif Arweinydd, ac fel Prif Arweinydd Gwadd Sinffonieta Hong Kong. Yn ddiweddar, mae wedi arwain Cerddorfa Ffilharmonig Seoul a Residentie Orkest am y tro cyntaf ac mae wedi cael ei wahodd yn ôl i arwain Cerddorfa Ffilharmonig yr Iseldiroedd, Orchestre de Pays de Savoie a Cherddorfa Symffoni Bilkent.