Mae gyrfa Christopher Barron wedi cofleidio pob ffurf ar y celfyddydau perfformio. Fe aeth ati yn y lle cyntaf i hyfforddi fel rheolwr llwyfan yn y Central School of Speech & Drama, gan weithio wedyn yng nghwmni Glyndebourne Opera, Gŵyl Wexford a’r Royal Exchange Theatre. Bu’n gweithio fel rheolwr llwyfan cyntaf gŵyl opera enwog Adam Pollock, Musica Nel Chiostro, yn Nhwsgani, a fu’n meithrin doniau operatig o bwys ers 30 mlynedd.
Bu gwyliau’n rhan bwysig o yrfa Christopher, gyda rolau fel uwch reolwr yng ngwyliau Buxton a Chaeredin, gan ehangu ei gysylltiadau rhyngwladol, yn enwedig yn Nwyrain Ewrop a’r Dwyrain Pell. Roedd yn Gyfarwyddwr Arts 2000 Year of Drama Cyngor Celfyddydau Lloegr ym Manceinion ym 1994, sef rhagflas o Ŵyl Ryngwladol Manceinion a gynhelir heddiw.
Daeth Christopher yn Brif Weithredwr Gŵyl Brighton yn 1995, ac roedd yn gyfrifol am waith adnewyddu mawr y Brighton Dome, ynghyd ag ail-ddychmygu rhaglen yr ŵyl. Yn 2000, daeth yn Brif Weithredwr Scottish Opera a Scottish Ballet, gan reoli newidiadau arwyddocaol o safbwynt economaidd ac artistig ar gyfer y ddau gwmni. Yn 2005, symudodd i’r Birmingham Royal Ballet ble bu’n rheoli’r cwmni trwy flynyddoedd yr argyfwng bancio, gan adeiladu incwm datblygu sylweddol a oedd wedi galluogi cynhyrchu 24 bale newydd.
Mae Christopher yn gyn Gadeirydd yr asiantaethau dawns yn Nottingham a Brighton, ac roedd yn ymddiriedolwr ar gyfer Dance Umbrella am gyfnod hir. Mae o newydd gwblhau wyth mlynedd fel ymddiriedolwr ar gyfer y Rambert Dance Company a’r Three Choirs Festival, sef gŵyl hynaf Prydain. Erbyn heddiw, mae o wrth ei fodd yn cael y cyfle i ymuno ag WNO, sy’n gwmni y bu’n ei ddilyn yn frwd ers ei flynyddoedd yn astudio Rwseg ac Eidaleg ym Mhrifysgol Abertawe ar ganol y 1970au.