
Claire Booth
Trosolwg
Enillodd Claire Radd Dosbarth Cyntaf dwbl mewn Hanes Modern a Rhwyfo Glas o Brifysgol Rhydychen cyn astudio yn y Guildhall School of Music & Drama a'r National Opera Studio lle derbyniodd Wobr Susan Chilcott yn 2006. Mae wedi canu rolau blaenllaw ar gyfer y Royal Opera, Opera Cenedlaethol Cymru a Scottish Opera ymhlith eraill, ac mae perfformiadau cyngerdd wedi mynd â hi mor bell â'r Los Angeles Philharmonic, Tokyo Philharmonic a Boston Symphony Orchestra.
Gwaith diweddar: Rôl deitl Berenice gan Handel (ROH); Elena yn y perfformiad cyntaf o A Feast in the Time of Plague Woolf (Grange Park Opera); Nitocris Belshazzar (Gŵyl Grange); ac ymddangosiadau cyngerdd gyda Cherddordga Symffoni Radio Sweden, y Philharmonia a City of Birmingham Symphony Orchestra.