Cwrdd â WNO

Claudia Boyle

Astudiodd y gantores soprano Wyddelig, Claudia Boyle, yn y Royal College of Music yn Nhulyn a’r Royal Irish Academy of Music. Yn gyn aelod o Brosiect Cantorion Ifanc Gwŷl Salzburg, enillodd Claudia y Wobr Gyntaf a Gwobr y Beirniaid yng nghystadleuaeth Maria Callas yn Verona. Mae uchafbwyntiau ei gyrfa yn cynnwys Konstanze Die Entführung aus dem Serail (Teatro dell’Opera di Roma & Komische Oper Berlin), Alice Alice’s Adventures Underground (The Royal Opera House), Adina L’elisir dAmore (Semperoper Dresden and Den Norske Opera), Leila The Pearl Fishers (English National Opera), Tytania A Midsummer Nights Dream a Gilda Rigoletto (Teatro dell’Opera di Roma), a Lucia Lucia di Lammermoor (Danish National Opera). Mae hi’n edrych ymlaen yn fawr iawn tuag at ei pherfformiad cyntaf gyda Chwmni WNO, sef Candide.

Gwaith diweddar ac i ddod: Dede A Quiet Place (Opéra National de Paris), Silvia The Exterminating Angel (Opéra National de Paris) a Zoraida Zoraida di Granata (Wexford Festival Opera).