Cwrdd â WNO

Claudio Otelli

Graddiodd y bas-bariton o Awstria, Claudio Otelli, o Brifysgol Cerdd a'r Celfyddydau Perfformio yn Fienna a chwblhaodd ei astudiaethau Meistr gyda'r Maestro Aldo Danieli. Ar ôl hynny daeth yn aelod o'r Vienna State Opera ac ers hynny mae wedi perfformio ar lwyfannau ledled Ewrop, UDA a Siapan gan gynnwys Teatro alla Scala, y Lincoln Centre, Efrog Newydd, y Bavaraian State Opera a Gŵyl Bregenz. Ar hyn o bryd mae'n cydweithio â'r Athro Heidrun Franz-Vetter.

Gwaith diweddar: Blobel/Organydd Les Bienveillantes (Opera Vlaanderen); Dr. Schön/Jack the Ripper Lulu, Don Pizarro Fidelio (Theater Bremen)