
Cwrdd â WNO
Conal Bembridge–Sayers
Yn wreiddiol o ogledd Cymru, mae Conal Bembridge–Sayers yn arweinydd a répétiteur llawrydd, sy’n gweithio â chwmnïau megis Opera Cenedlaethol Cymru a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Gweithiodd yn flaenorol fel aelod o staff cerdd llawn amser yn Opera Ballet Vlaanderen, Gwlad Belg. Conal yw cyfarwyddwr cerddorol Côr Orpheus Treforys, sy'n fyd-enwog, ac mae'n Bennaeth Llais University College School, Llundain. Yn ogystal â hyn, mae’n gweithio fel addysgwr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yn Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru.