Cwrdd â WNO

Dafydd Thomas

Is-Brif Chwaraewr Trombôn

Dechreuodd Dafydd ddysgu’r trombôn yn 11 oed, gan chwarae gyda phob ensemble ieuenctid yng Ngwasanaeth Cerdd Sir Gaerfyrddin, gan chwarae’n ddiweddarach gyda’r Tair Sir ac ensembles ieuenctid cenedlaethol. Symudodd wedyn i Gaerdydd, lle astudiodd ar gyfer ei radd israddedig a gradd meistr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Cyn ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru, bu Dafydd yn gweithio’n llawrydd gyda cherddorfeydd ar draws y DU gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Cymreig y BBC, Bournemouth Symphony Orchestra a’r City of Birmingham Symphony Orchestra.

Tra nad yw’n gweithio gydag Opera Cenedlaethol Cymru, mae Dafydd yn golffiwr cyffredin (ond brwdfrydig) ac wrth ei fodd yn treulio amser gyda'i ddau blentyn ifanc, er nad yw’n cael llawer o gwsg.