
Cwrdd â WNO
Damian Iorio
Wedi’i eni i deulu o gerddorion o’r Eidal a Lloegr, dechreuodd Damian Iorio ar ei fywyd proffesiynol fel feiolinydd yn dilyn ei astudiaethau yn y Royal Northern College of Music a Phrifysgol Indiana. Yna, hyfforddodd fel arweinydd yn St Petersburg State Conservatoire tra’r oedd yn aelod o’r Danish National Radio Symphony Orchestra. Ers hynny mae wedi gweithio gyda chwmnïau opera a cherddorfeydd ledled y byd. Daeth Damian yn Gyfarwyddwr Cerdd Milton Keynes City Orchestra yn 2014.
Gwaith diweddar: Arweinydd Boris Godounov (Paris Opera); Aufstieg und Fall der Stadt Mahagonny (Norrlandsoperan, Sweden); Carmen (Helikon Opera, Moscow)