Dan Perkin
Graddiodd Dan o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac mae'n gyfeilydd piano, cyfarwyddwr cerdd, ac arweinydd gweithdy. Mae'n arbenigo mewn opera newydd ar gyfer cynulleidfaoedd neu berfformwyr ifanc; ac ef yw cyfarwyddwr cerdd Opera Ieuenctid WNO, a phrosiect Opera i Ysgolion Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae'n arwain gweithdai a pherfformiadau ar gyfer teuluoedd, pobl sy'n dioddef o ddementia, mewn ysgolion prif lif ac ysgolion anghenion addysgol arbennig, a chyda rhai sydd wedi eu heffeithio gan ddigartrefedd fel arweinydd gweithdy Streetwise Opera. Mae'n gyfansoddwr brwd cerddoriaeth i leisiau ifanc, a pherfformiwyd ei waith comisiwn Beekind gan dros 500 o bobl ifanc fel rhan o Dymor RHYDDID WNO a pherfformiwyd ei drefniant o Ar Lan y Môr yn agoriad y 6ed Senedd wrth i'r diweddar Fawrhydi Elizabeth II gyrraedd. Mae'n gyn-aelod (a nawr yn fentor) Live Music Now ac fe ddaeth yn aelod cyswllt o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2018.