Daniel Müller-Schott
Trosolwg
Mae galw mawr am y canwr soddgrwth, Daniel Müller-Schott, a bydd yn perfformio’n aml gyda cherddorfeydd ac arweinwyr uchel iawn eu parch ledled y byd. Mae tymor 19/20 Daniel yn cynnwys cyngherddau gyda cherddorfeydd megis Royal Liverpool Philharmonic, Cerddorfa Symffoni Genedlaethol Denmarc, Cerddorfa Ffilharmonig Helsinki, Cerddorfa Radio Ffilharmonig yr Iseldiroedd, Cerddorfa Ffilharmonig Dresden, Cerddorfa Symffoni Bochum, Cerddorfa Amgueddfa Frankfurt, Cerddorfa Tonkünstler yn Fienna, Cerddorfa Symffoni Seattle a Cherddorfa Ffilharmonig Seoul, yn ogystal â theithiau cerddoriaeth siambr yn Ewrop, Unol Daleithiau America a Japan gydag Anne-Sophie Mutter. Yn recordio ar gyfer Orfeo, mae gan Müller-Schott 25 o recordiau yn ei ddisgyddiaeth hyd yma. Mae’n chwarae soddgrwth ‘Ex Shapiro’ Matteo Goffriller, Fenis, 1727.