Trosolwg
David Adams yw arweinydd Cerddorfa WNO ac mae’n diwtor feiolín yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ar ôl perfformio yn y gorffennol fel fiolydd gwadd gydag ensemble siambr London Bridge Trio, cafodd David wahoddiad i ymuno â’r triawd fel eu feiolinydd newydd yn 2017. Mae David yn angerddol am gerddoriaeth siambr ac wedi bod yn aelod o Ensemble Raphael ac Ensemble Ovid. Mae nawr wrth ei fodd yn cael cyfle i ddarganfod repertoire hynod y triawd piano gyda dau gerddor mor wych a nodedig, sef Kate Gould a Daniel Tong.
Mae David wedi gwneud ymddangosiadau gwadd, recordiadau a darllediadau rheolaidd ar y feiolín a’r fiola gydag Nash Ensemble, Endellion String Quartet, Gould Piano Trio ac Hebrides Ensemble. Yn ddiweddar, mae wedi recordio Pedwarawd Piano llawn Brahms gyda Gould Piano Trio. Mae’n mynd i’r Seminar Cerddorion Rhyngwladol yn Prussia Cove yn rheolaidd. Eleni bydd yn perfformio yng Ngŵyl Caer-wynt, Leeds International Chamber Music Series, Gŵyl Corbridge, a chyngherddau eraill gydag Nash Ensemble. Mae David hefyd wedi ymddangos fel arweinydd gwadd gyda nifer o gerddorfeydd symffoni a cherddorfeydd siambr y DU ac yn ddiweddar mwynhaodd y profiad o fod yn Unawdydd Fiola gyda Cherddorfa Siambr Ewrop.
Yn ei rôl yn WNO mae David wedi perfformio nifer o goncertos gyda’r Gerddorfa ac mae’n mwynhau cyfarwyddo cyngherddau o’r feiolín, y rhai mwyaf diweddar: Symffoni Rhif 41 Mozart, Symffoni Rhif 1 Beethoven, cyngherddau Fiennaidd a holl Goncertos Brandenburg Bach.
Daw David o deulu cerddorol, roedd ei dad yn Unawdydd Fiola gyda Halle Orchestra ac mae David yn briod â’r soddgrythor Alice Neary. Mae Alice a David yn mwynhau bod yn gyfarwyddwyr artistig Gŵyl Gerddoriaeth Siambr Penarth, mae’r ŵyl yn cael ei chynnal pob mis Gorffennaf ar Bier Penarth. Dechreuodd David ei astudiaethau gyda’i dad pan oedd yn 5 oed ac yna parhaodd â’i hyfforddiant gyda Malcolm Layfield yn Chetham’s School of Music a RNCM ac yna yn yr UDA gyda Zvi Zeitlin a Daniel Phillips. Mae David yn chware feiolín Joannes Gagliano o 1800 a fiola Betts o tua 1840 a oedd ei dad yn arfer chware.