Cwrdd â WNO
David Hackbridge Johnson
Cafodd David Hackbridge Johnson ei eni yn Carshalton, Lloegr, yn 1963. Ymhlith ei weithiau mae 15 Symffoni, 10 Pedwarawd Llinynnol, 19 Sonata Piano, 4 Sonata ar gyfer Feiolín a Phiano, a nifer o weithiau lleisiol. Mae ei gerddoriaeth wedi cael ei recordio gan y Royal Liverpool Philharmonic Orchestra a’r Royal Scottish National Orchestra. Mae wedi ysgrifennu tair opera, a chafodd yr ail, Madeleine, ei gomisiynu fel rhan o ddathliadau pen-blwydd Surrey Opera yn 50, a pherfformiwyd ganddynt gyda’i arweinydd Jonathan Butcher yn 2021. Mae Hackbridge Johnson hefyd yn fardd ac awdur, ac mae’n byw yn Tooting, De-orllewin Llundain.