Cwrdd â WNO
David Junghoon Kim
Trosolwg
Yn gyn-fyfyriwr Rhaglen Artistiaid Ifanc Jette Parker y Royal Opera House, mae’r tenor Coreaidd David Junghoon Kim yn enillydd cystadlaethau canu Francisco Viñas, Voci Verdiane a Toulouse. Mae Kim wedi gwneud cyfres o berfformiadau cyntaf ac ymddangosiadau nodedig: fel Alfredo mewn cynhyrchiad newydd o La traviata yn Cologne, Macduff Macbeth y ROH a Zürich Opera, Rodolfo La bohème yn Zürich a Stuttgart; Roméo Roméo et Juliette yn Grange Park Opera, a Leone de Casaldi mewn perfformiadau cyngerdd o’r perfformiad cyntaf yn y byd o L’ange de Nisida gan Donizetti gyda Syr Mark Elder ar gyfer Opera Rara yn y ROH.
Gwaith diweddar: Rodolfo La bohème (ROH); Duca Rigoletto ar gyfer ei berfformiad cyntaf yn Opera Holland Park.