David McVicar
Trosolwg
Ganwyd David McVicar yn Glasgow a hyfforddodd fel actor yn y Royal Scottish Academy of Music & Drama (sydd bellach y Royal Conservatoire of Scotland). Yn 2012 fe gafodd ei urddo’n fachog am ei wasanaethau i opera, ac fe’i wnaed yn Chaevalier de L’Ordre des Arts et des Lettres gan Lywodraeth Ffrainc. Mae ei gynyrchiadau wedi’u llwyfannu ar draws y DU, gan gynnwys Le nozze di Figaro, Death in Venice, The Magic Flute (ROH); Der Rosenkavalier, The Turn of the Screw (ENO); Die Meistersinger von Nürnberg (Glyndebourne); Il trittico, The Rake’s Progress, Madama Butterfly (Scottish Opera). Mae wedi gweithio’n eang trwy Ewrop yn yr Opéra national de Paris, La Scala, Gran Teatro del Liceu yn Barcelona, Festival D’Aix-en-Provence ymhlith eraill. Gweithiodd gyda’r Lyric Opera of Chicago, San Francisco Opera, Canadian Opera Company, Santa Fe Opera, Opera Australia a bu’n cyfarwyddo sawl cynhyrchiad yn The Metropolitan Opera, gan gynnwys Medea, Don Carlo, a Giulio Cesare.