David Pountney
Trosolwg
Ganwyd David Pountney yn Rhydychen a bu’n astudio yn St John’s College, Caergrawnt. Mewn gyrfa sydd wedi para dros 45 mlynedd, bu’n Gyfarwyddwr Cynhyrchiadau gyda Scottish Opera ac English National Opera, yn Arolygwr y Bregenzer Festspiele ac yn Gyrfarwyddwr Artistig WNO o 2011-2019. Trwy ei gynyrchiadau arloesol, mae David wedi ennill medalau Janáček a Martinů a Gwobrau Olivier, ac mae ei librettos gwreiddiol wedi’u gosod i gerddoriaeth gan Syr Peter Maxwell Davies ac Elena Langer. Mae hefyd wedi cyfieithu librettos i’r Saesneg o Rwsieg, Tsiec, Almaeneg ac Eidaleg. Yn flaenorol yn CBE, cafodd David Pountney ei urddo’n farchog am ei wasanaethau i opera yn 2019. Mae hefyd wedi cael anrhydeddau sifil gan Awstria, Gwlad Pwyl a Ffrainc.
Gwaith diweddar ac ar y gweill: Die Meistersinger von Nürnberg (Oper Leipzig); Al Wasl, La Voix Humaine (WNO); Figaro Gets a Divorce (Theater Magdeburg); Le Nozze di Figaro (The Israeli Opera); The Excursions of Mr Broucek (Grange Park Opera); The Gambler Valle d’Itria Festival