
Astudiodd Dean yn yr Royal Northern College of Music a’r Guildhall School of Music and Drama.
Cyn ymuno â WNO, gweithiodd Dean yn llawrydd ar draws Ewrop a’r DU, gan dreulio dau haf gyda’r Aix-en-Provence Festival Orchestra.
Uchafbwynt personol Dean hyd yma gyda WNO yw chwarae Die Meistersinger yn y BBC Proms: ‘Roedd y Gerddorfa’n swnio’n anhygoel. Roedd yr awyrgylch yn y Royal Albert Hall yn drydanol.’
Y tu allan i’w waith â WNO, mae Dean yn cefnogi Manchester United a thîm pêl-droed ei fab, Sully Stallions, yn ogystal â mwynhau coginio bwyd Eidaleg. Mae Dean yn briod â’r gantores Gymraeg Sian Meinir.