Cwrdd â WNO

Deborah Cohen

Graddiodd Deborah gyda BMus mewn Perfformio Piano o Brifysgol Leeds ac enillodd radd ôl-raddedig mewn Rheoli Llwyfan o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC). Yn 2010, cyd-sefydlodd y cwmni opera Opera’r Ddraig sydd wedi’i leoli yng Nghaerdydd. Mae Deborah wedi cyfarwyddo Hansel & Gretel, Opera Scenes ac Opera Galas ar gyfer Ysgol Opera yn CBCDC. Yn ogystal, mae wedi bod yn Gyfarwyddwr Adfywio ar gyfer cynyrchiadau yn Folkoperan, Gran Teatre del Liceu, Opéra de Lille, Theater Freiburg a Den Jyske Opera. Mae hi hefyd wedi cyfarwyddo staff ar nifer o gynyrchiadau yn RBO, WNO, Opera North, Opéra de Marseille, Opéra national de Lorraine, Garsington Opera, Opera Holland Park, Opera Canolbarth Cymru a Buxton.

Gwaith yn y dyfodol: Cyfarwyddwr Opera Scenes (CBCDC), Cyfarwyddwr Cynorthwyol I puritani (RBO, cynhyrchiad newydd gan Richard Jones).