Cwrdd â WNO

Diana Salles

Mae Diana Salles yn artist syrcas, dawnsiwr cyfoes, ymgyrchydd, ac yn fenyw draws falch o São Paulo, Brasil. Graddiodd o’rÉcole Supérieure des Arts du Cirque (ESAC)ym Mrwsel yn 2018 gan arbenigo mewn campau awyr a chydbwyso ar y llawr. Yn 2019, enillodd y fedal efydd a’r wobr fawreddog Prix de laVille de Paris yn 40fed Gŵyl Mondial du Cirque de Demain ym Mharis, y fedal arian a Gwobr y Gynulleidfa yng Ngŵyl Syrcas Iberoamerican (FIRCO), gan sefydlu ei hunain fel perfformiwr a chrëwr blaenllaw yn y byd syrcas cyfoes.  

Ar ôl gweithio gyda nifer o gwmnïau syrcas enwog yn Ewrop, dechreuodd Diana ymroi ei gwaith i bŵer trawsnewidiol cysylltiad ar y llwyfan. Rhoddodd Diana ei pherfformiad cyntaf o’i sioe unigol gyntaf, DELUSIONAL, yng Ngŵyl Fringe Amsterdam yn 2023. Enillodd y sioe Wobr Bwrsari Rhyngwladol, a chafodd glod fel darn hyfryd sy’n barod i deithio’r byd. Mae Diana yn ymgorffori grym bywiog yng nghelfyddydau’r syrcas, gan dorri ffiniau gyda sgiliau, angerdd a phresenoldeb llwyfan hudolus.