
Cwrdd â WNO
Dominique Skinner
Hyfforddodd Dominique mewn Theatr Gerdd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle dyfarnwyd gwobr Prudence Emlyn-Jones iddi mewn symudiad a dawns. Ers graddio, mae Dominique wedi teithio gyda Scottish Opera yn Ainadamar, wedi canu yn fideo cerddoriaeth Pride This is Me ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru, a pherfformio gyda’r rhaglen 10 Minute Musicals (Leeway Productions) ac yn The Other Room Theatre yng Nghaerdydd. Chwaraeodd Dominique ran Sophie yn y ffilm fer The Youth, a enwebwyd ar gyfer Gwobr Cymdeithas Deledu Frenhinol Cymru.