Cwrdd â WNO

Donald Maxwell

Yn gynddisgybl Daearyddiaeth yr University of Edinburgh, mae Donald Maxwell wedi canu’n broffesiynol am dros 45 mlynedd. Mae ei yrfa ryngwladol wedi’i gymryd i La Scala Milan, Vienna Staatsoper, Teatro Colón yn Buenos Aires, y Salzburg Easter Festival ac mae ganddo gysylltiad parhaol gyda’r Metropolitan Opera yn Efrog Newydd.

Gwnaeth ei ddebut gydag Opera Cenedlaethol Cymru yn 1982, a dros y 35 mlynedd nesaf rhoddodd dros 500 o berfformiadau gyda’r Cwmni mewn 30 rôl gwahanol. Yn nodedig oedd rôl deitl Falstaff Verdi a Iago yn Otello, Golaud yn Pelléas et Mélisande Debussy, a Somarone y meistr cerddoriaeth meddw yn Béatrice et Bénédict Berlioz.

Roedd yn Gyfarwyddwr y National Opera Studio am saith mlynedd ac yn Bennaeth Astudiaethau Opera yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama. Mae ei yrfa hefyd yn cynnwys cyfarwyddo a diddordeb parhaol yn natblygiad a hyfforddi perfformwyr ifance.

Gyda merch a gwraig Gymreig, bu’n byw am dros 30 mlynedd ym Mhenarth ac mae’n ddefnyddiwr hoff o orsaf trên Penarth.