Cwrdd â WNO

Dr Arun Midha

Cafodd Arun ei fagu yn Nhre-gŵyr ac astudiodd mewn sawl Prifysgol (Abertawe, Caerdydd a Rhydychen) gan gwblhau ei PhD yn y 1990au. Yn dilyn sawl blwyddyn yn sector y Brifysgol mewn Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd ac Addysg Feddygol gyda Choleg Meddygaeth Prifysgol Cymru ac yna Prifysgol Caerdydd, mae Arun wedi adeiladu portffolio o rolau anweithredol a lleyg mewn meysydd rheoleiddio, safonau, llywodraethiant, iechyd ac addysg. Ar hyn o bryd mae’n aelod lleyg ar y Pwyllgor Dethol ar Safonau, Tŷ’r Cyffredin, Cadeirydd Annibynnol Adolygiadau Ôl-weithredol o Ofal Iechyd Parhaus yng Nghymru a Lloegr ac yn aelod o’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol. Mae rolau blaenorol yn cynnwys aelodaeth o’r Cyngor Meddygol Cyffredinol gan weithredu fel Trysorydd, ac aelod o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru. Mae Arun wedi gwasanaethu fel Ynad Heddwch ac roedd hefyd yn Uchel Siryf De Morgannwg yn 2012. Yn ogystal, roedd Arun yn Ymddiriedolwr i Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru. Mae’n Llywodraethwr Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr ac yn Asesydd Gwobrau Pen-blwydd y Frenhines ar gyfer Addysg Bellach ac Uwch. Mae’n gefnogwr brwd o’r elusenau Achub y Plant a Street Child United. Mae ganddo docyn tymor yng nghlwb pȇl-droed Abertawe.