Cwrdd â WNO

Dunia Ershova

Prif Chwaraewr Fiola

 Mae gan y chwaraewr fiola Evdokia (Dunia) Ershova yrfa nodedig yn perfformio ac yn dysgu ar draws Ewrop. Yn 2024, daeth Dunia yn Brif Chwaraewr Fiola’r Adran gyda Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd. Mae hi wedi bod ar daith gyda Cherddorfa Aurora ac wedi dechrau cydweithredu gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ers 2018 bu’n Brif Chwaraewr Fiola Cerddorfa Symffoni Aalborg yn Nenmarc gan ddysgu yn y Danish Conservatory of Music yn Aarhus. Cyflawnodd Dunia rôl Prif Chwaraewr Fiola Ffilharmonig Málaga o 1999 i 2018, a sefydlodd Gymdeithas Fiola Andalwsaidd ac Ensemble Fiola Málaga. Roedd Dunia hefyd yn aelod o’r gyfadran yn Ysgol Gerdd Reina Sofía, yr ysgol gerdd uchel ei pharch ym Madrid am bum mlynedd. Astudiodd Dunia gyda Paul Silverthorneat yn Ysgol Gerdd a Drama Guildhall, ac yn ystod y cyfnod hwnnw cyfranogodd yng nghynllun uchel ei barch Cerddorfa Symffoni Llundain, y String Experience Scheme, yn 1999.

Y tu allan i’w bywyd proffesiynol, mae Dunia’n mwynhau blasu gwin, coginio a threulio amser gyda’i ffrindiau hanwylaf ar draws y byd, gan gwerthfawrogi’r cysylltiadau yma a’r amser a rennir gyda hwy.