
Edmond Choo
Tenor coloratwra o Awstralia yw Edmond Choo sydd bellach yn preswylio yn y DU. Wedi iddo raddio gyda BA mewn Perfformio Cerddorol o'r Victorian College of the Arts yn 2008, ymunodd Edmond fel aelod llawn amser o Gorws Opera Awstralia, yn perfformio ac yn cyflenwi sawl rôl, gan gynnwys Hadji yn Lakme a Faninal Major-Domo yn Der Rosenkavalier.
Symudodd Edmond i'r DU yn 2011 ac ers hynny mae wedi perfformio gyda ROH, WNO, ENO, Grange Park Opera ac Opera Holland Park. Yn ogystal, cyrhaeddodd rownd gyn-derfynol Gwobr Kathleen Ferrier yn 2013. Yn 2015, camodd Edmond i rôl Arturo yn I Puritani (WNO) am y tro cyntaf. Ymhlith y rolau eraill y mae wedi'u perfformio a'u cyflenwi gydag WNO mae: Tywysog Golitsyn Khovanshchina, Sarjant Snell In Parenthesis, Pirelli Sweeney Todd, Arnold Guillaume Tell, Gŵr Noeth Moses und Aron ac Arglwydd Percy Anna Bolena.