Cwrdd â WNO

Edward Fuse

Soddgrwth Tutti

Magwyd Ed yn Llundain ac fe astudiodd yn y University of Birmingham, y Royal Academy of Music a gyda’r Southbank Sinfonia, cyn treulio tair blynedd fel aelod o’r RTÉ National Symphony Orchestra of Ireland. Ers iddo ddychwelyd i’r DU, mae Ed wedi mwynhau gyrfa lawrydd amrywiol, yn gweithio gan fwyaf gyda’r CBSO, BSO, a sawl cerddorfa’r BBC. Mae ef wedi perfformio sawl concerto i’r soddgrwth gan gynnwys gweithiau Dvořák, Elgar, Miaskovsky a Haydn, rhoi datganiadau gyda’r pianydd Craig White, ac wedi chwarae’n fyw i ddangosiadau ffilm gyda’r Covent Garden Sinfonia. Mae Ed hefyd wedi gweithio ar Les Misérables a chynyrchiadau’r National Theatre Every Good Boy Deserves Favour ac All’s Well That Ends Well, a The Great Christmas Feast cwmni The Lost Estate ers 2018. 

Ymunodd Ed â WNO ym mis Medi 2022 ac mae’n chwarae soddgrwth Robin Aitchison a grëwyd yn 2020. Tu allan i gerddoriaeth mae wedi gweithio fel ymgynghorydd polisi ac mae’n mwynhau’r mwyafrif o gemau a chwaraeon.