Eiry Price
Daw’r soprano Eiry Price o Bencaenewydd, Gogledd Cymru, ac mae’n Artist Cyswllt Opera Cenedlaethol Cymru 2024/2025. Mae hi’n gyn-fyfyriwr y Royal College of Music a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle cafodd gefnogaeth hael gan Ymddiriedolaeth Iarlles Munster, Ymddiriedolaeth H R Taylor, a Gwobr Dick Maidment a Peggy Cooper. Mae Eiry wedi cydweithio ag Opera Rara, gan berfformio yn La Princesse de Trébizonde Offenbach gyda’r London Philharmonic Orchestra ac Il proscritto Mercadante o dan Carlo Rizzi. Yn gystadleuydd gyffredin ar y llwyfan, enillodd Eiry Wobr Lleisiol James Pantyfedwen, Ysgoloriaeth Parc Jones, ac Ysgoloriaeth Towyn Roberts yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Gwaith WNO 2024/2025: Cowntes Ceprano Rigoletto; Barbarina a Susanna (dirprwy) The Marriage of Figaro; ac Ail Nith Peter Grimes. Bydd hefyd yn perfformio fel Susanna mewn fersiwn cwta o The Marriage of Figaro. Ar y platfform cyngerdd, mi fydd yn perfformio yn Natganiad Artistiaid Cyswllt WNO yn 2025.