Cwrdd â WNO

Elanor Higgins

Dylunydd Goleuo

Mae Elanor yn Ddylunydd Goleuo a leolir yng Nghymru sy’n gweithio ym maes theatr, opera, dawns a sioeau cerdd. Mae’n gweithio ledled y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys yn Iwerddon, Sbaen a Thŷ Opera Sydney. Graddiodd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru lle bydd yn dychwelyd fel darlithydd gwadd a mentor Goleuo Llwyfan. 

Gwaith diweddar: Madam Butterfly, Rhondda Rips It Up! (WNO), La bohème (MWO), Galwad (Theatr Genedlaethol Cymru/Collective Cymru/Unboxed), Nut Cracker, Santa’s Wish a Castellana (Live Under the Stars), Revolt. She said. Revolt Again a Huno (TOR), Arandora Star, Eye of the Storm, White Feather, The Ghost of Morfa Colliery (Theatr na nÓg), Pryd Mae’r Haf, Merched Caerdydd, Nos Sadwrn o Hyd, Hollti, Y Negesydd, Pridd (Theatr Genedlaethol Cymru) a StickMan a Tiddler and Other Terrific Tales (Freckle Productions).