Cwrdd â WNO

Emily Rooke

Soprano yw Emily Rooke ac mae’n astudio fel Deiliad Gwobr yn y Coleg Cerdd Brenhinol dan nawdd Dinah Harris. Yn y gorffennol, bu Emily yn hyfforddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, yr Haute Ecole de Musique de Genève a’r Conservatorio di Musica. Bu’n Intern Animateur Lleisiol ar gyfer WNO yn 2019 ac yn Artist Ifanc Serena Fenwick gydag Opera Ieuenctid Prydain yn 2020-21. Mae ei rolau yn y gorffennol yn cynnwys Le Papillon yn L’enfant et les Sortilèges (VOPERA), Betly yn Betly (Opera Ieuenctid Prydain) a Léonore yn Les Fêtes Vénitiennes (Liszt Akademia). Mae wedi perfformio unawdau yn Easter Oratorio gan Bach (y Coleg Cerdd Brenhinol), yn Requiem gan Mozart ac yn Magnificat gan Pergolesi (Cerddorfa Symffoni Swydd Gaerwrangon), a hefyd yng Ngŵyl y Tri Chôr yn 2021. Bu’n unawdydd grŵp gyda Chôr Cenedlaethol Cymru y BBC ar gyfer Seven Angels gan Syr James MacMillan a hefyd ar gyfer un o raglenni teledu y BBC, sef Wonders of the Celtic Deep. Hefyd, mae Emily yn perfformio caneuon liwt yn rheolaidd, ac yn ddiweddar aeth ati i guradu arddangosfa ddigidol gan y Coleg Cerdd Brenhinol yn ymwneud â bywyd a gwaddol y Fonesig Ethel Smyth.