Cwrdd â WNO
Emma Bell
Astudiodd Emma Bell yn y Royal Academy of Music ac enillodd y Kathleen Ferrier Award ym 1998. Mewn tymhorau diweddar mae hi wedi sefydlu’r prif rolau jugendlich-dramatisch yn ei repertoire, gan roi ei pherfformiadau cyntaf yn y Bayerische Staatsoper fel Eva Die Meistersinger von Nürnberg, Deutsche Oper Berlin fel Elisabeth a Venus yn Tannhäuser a Staatsoper Hamburg fel Elsa Lohengrin. Bydd perfformiadau yn nhymor 2022/2023 yn cynnwys Aunt Lydia The Handmaid’s Tale (English National Opera); Madame Lidoine Dialogues des Carmélites (Staatsoper Hamburg) ac Ellen Orford Peter Grimes (Teatro La Fenice).
Gwaith diweddar: Sieglinde The Valkyrie (English National Opera); Leonore Fidelio (Prague State Opera, Operhaus Zürich)