
Yn wreiddiol o Gaerdydd, graddiodd Enlli gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf BMus o Ysgol Cerdd a Drama’r Guildhall a derbyn Diploma Datganiad Cyngerdd am berfformiad rhagorol yn ei pherfformiad terfynol, cyn dychwelyd ac ennill gradd Meistr gyda Rhagoriaeth yn 2020. Roedd yn fraint gan Enlli i gael ei dewis fel Cymrawd Iau Ysgol Cerdd a Drama’r Guildhall ar gyfer 2020/21. Ar ôl graddio, mwynhaodd Enlli weithio’n llawrydd gyda WNO ac Opera North cyn ymuno â Cherddorfa WNO yn llawn amser fel Dirprwy Brif chwaraewr Ffliwt yn 2023.
Enillodd Enlli Ysgoloriaeth Bryn Terfel Urdd Gobaith Cymru.
Pan nad yw’n gweithio i WNO, mae Enlli yn mwynhau rhedeg, a wastad yn mwynhau cymryd rhan yn y parkrun lleol gydag aelodau eraill y Cwmni pan fydd hi’n teithio.