Cwrdd â WNO

Feargal Mostyn-Williams

Feargal Mostyn-Williams oedd yr uwchdenor cyntaf i hyfforddi yn y National Opera Studio. Bu hefyd yn astudio yn y Royal College of Music fel Ysgolor RCM, ac fel Ysgolor Corawl yn King’s College, Cambridge. Yn ddiweddar dyfarnwyd Ysgoloriaeth Sefydliad Daiwa iddo fel rhan o raglen gyfnewid ddiwylliannol rhwng Lloegr a Japan ac roedd yn aelod o'r National Centre for Circus Arts. Mae'n arbenigwr mewn opera gyfoes, ac wedi bod yn rhan o nifer o berfformiadau cyntaf o operâu. Mae'n ymroddedig i ehangu apêl a repertoire llais yr Uwchdenor a chreu prosiectau rhyngddisgyblaethol. Yr opera ddiweddaraf iddo fod yn rhan o’i pherfformiad cyntaf oedd Songs of Orpheus and Izanagi, ar ddiwedd 2022 yn Tokyo Opera City.  

Gwaith diweddar: Hamlet yr Eliffant The Firework Maker’s Daughter (Tête à Tête Opera/Minack Theatre), Cath Hapus Alice’s Adventures in Wonderland (WNO/Opera Holland Park), Antonio The Merchant of Venice (WNO), Piero Seven Angels (OperArt), Marie Stopes Dear Marie Stopes (Tête à Tête Opera), Joad Athalia (Konzertchor Darmstadt), a dirprwy ar gyfer rhan y teitl Akhnaten ac Unulfo Rodelinda (ENO).