![Ffion Edwards Cunégonde](https://d26xc2l5xmkpuu.cloudfront.net/_imager/c5397c85806fff673008232139fb49e7/Ffion-Edwards-Cunegonde_a9b45cf07d56a908df051ba8d0ec9627.jpg)
Ffion Edwards
Soprano o Gymru yw Ffion ac mae’n gynfyfyriwr y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac mae ganddi gymhwyster Meistr mewn Perfformio o’r Royal College of Music lle astudiodd gya Dinah Harris. Roedd hi’n un o Artistiaid Ifanc y National Opera Studio am Dymor 2021/2022. Yn ddiweddar, perfformiodd Ffion am y tro cyntaf gyda Glyndebourne Festival Opera mewn dau berfformiad fel Oberto Alcina, Glyndebourne Touring Opera fel Morwyn Briodas Gyntaf The Marriage of Figaro, Opéra National de Lorraine fel Kristin yn Julie gan y cyfansoddwr o Wlad Belg Philippe Boesmans ac English National Opera fel Frantik a Jay The Cunning Little Vixen. Edrychai Ffion ymlaen at berfformio rôl Gianetta L’elisir d’amore yn Nhymor yr Hydref yn Glyndebourne.
Gwaith diweddar: rolau dirprwy ar gyfer Brenhines y Nos The Magic Flute a Bronwen Blaze of Glory! (Opera Cenedlaethol Cymru).