Fflur Wyn
Trosolwg
Astudiodd y soprano Gymreig Fflur Wyn yn y Royal Academy of Music, lle derbyniodd gradd anrhydedd dosbarth cyntaf a DipRAM ar gyfer perfformiad rhagorol o gwrs opera’r Academy. Ar y platfform cyngerdd mae ei pherfformiadau pwysig yn cynnwys Christmas Oratorio (Copenhagen Philharmonic Orchestra); Jephtha Handel (Cappella Amsterdam/Daniel Reuss); B Minor Mass Bach (Royal Northern Sinfonia/Thomas Zehetmair ac Orquesta Sinfónica de Baleares) a Carmina Burana Orff (CBSO a RSNO). Ar gyfer WNO mae ei gwaith blaenorol yn cynnwys Jemmy Guillaume Tell, Iphis Jeptha, Blonde Die Entführung aus dem Serail, Dorinda Orlando ac Alice Alice’s Adventures in Wonderland.
Gwaith diweddar: Nith Gyntaf Peter Grimes (Royal Danish Opera); Malinka/Etherea/Kunka The Adventures of Mr Broucek (Grange Park Opera); Morgana Alcina ac Euridice Orfeo ed Euridice (Opera North).