Cwrdd â WNO

Finnegan Downie Dear

Ganed yr arweinydd Finnegan Downie Dear yn Llundain ac mae’n byw ym Berlin. Astudiodd Gerddoleg yng Nghaergrawnt, gan raddio gyda Rhagoriaeth, ac yna’r Piano yn y Royal Academy of Music. Y tymor hwn mae’n ymddangos am y tro cyntaf yn Garsington Opera gyda Der Rosenkavalier, yn ogystal ag yn Opera de Lyon gyda chynhyrchiad newydd o Billy Budd. Mae Finnegan hefyd yn dychwelyd i’r Staatsoper Berlin ar gyfer Don Giovanni a The Turn of the Screw.

Gwaith diweddar: The Story of Billy Budd, Sailor (Cynhyrchiad Newydd, Gŵyl Aix-en-Provence); The Magic Flute (ROH) a chyngherddau tanysgrifio (Staatskapelle Dresden).