Cwrdd â WNO

Firenza Guidi

Mae Firenza Guidi yn grëwr perfformiadau ac yn auteur/cyfarwyddwr ffilmiau, theatr a syrcas hynod lwyddiannus, ac fe’i ganed ym Milan. Aeth ati i gyfarwyddo syrcas NoFit State am y tro cyntaf yn 1995, ac ers hynny mae wedi cyfrannu at sicrhau bod gan y cwmni o Gymru le ar y llwyfan rhyngwladol gyda’i sioeau arloesol ImMortal, Tabú, Bianco, Lexicon ac yn fwy diweddar, Sabotage. Hyfforddodd fel perfformiwr/canwr gyda meistri rhyngwladol yn cynnwys Dario Fo, Philippe Gaulier, Ludwig Flaszen, Enrique Pardo ac Ida Kelarova, a hyfforddodd fel actores yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae ganddi PhD mewn Trasedïau’r Dadeni ac MA mewn Ffilm. Dangoswyd ei phrif ffilm Four Yellow Daffodils am y tro cyntaf yn yr Eidal y llynedd. Mae hi wedi creu a chyfarwyddo sgorau ar gyfer perfformiadau safle-benodol drwy’r byd. Erbyn hyn, mae cryn alw am ei Chanolfan Greu yn yr Eidal ymhlith gweithwyr proffesiynol ledled y byd, ac mae’r ganolfan yn hwb ar gyfer arbrofi, llunio a chreu.