
Cwrdd â WNO
Gareth Brynmor John
Yn enillydd y Kathleen Ferrier Award, astudiodd y bariton Gareth Brynmor John yng Nghaergrawnt, y Royal Academy of Music, ble derbyniodd y Patrons' Award, a'r National Opera Studio wedi ei gefnogi gan y Royal Opera House. Rhoddodd ei berfformiad cyntaf gydag Opera Cenedlaethol Cymru fel Schaunard La bohème yng Ngwanwyn 2017.
Gwaith diweddar: Robert Les vêpres siciliennes a dirprwyo Andrei War and Peace a Papageno The Magic Flute (WNO); Ashmeron The Indian Queen (Opéra de Lille); Donner Das Rheingold (Grimeborn Opera); Servilio Lucio Papirio Dittatore (Buxton Festival)