Cwrdd â WNO

Gareth Mole

Ganwyd Gareth yn Nwyrain Anglia ac mae’n gynddisgybl y London Contemporary Dance School lle’i wobrwywyd gyda’r wobr ddawns Lunn Prothero. Dechreuodd ei yrfa dawnsio gyda Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru o dan arweinyddiaeth Anne Sholem, cyn dawnsio ar lefel rhyngwladol ar draws y byd. Enwyd yn Ddawnsiwr y Mis gan Dancing Times yn 2012.

Yn gweithio ar draws sawl ffurf gelfyddydol, mae Gareth wedi coreograffio ac ail-lwyfannu gwaith ar gyfer Oxford Playhouse, Royal Opera House, Volkspoer Wien, National Theatre, Sadlers Wells, Royal Exchange Theatre, The Bridge Theatre a Scottish Opera. Mae Il trittico yn dynodi debut Gareth yn WNO a’i drydydd cynhyrchiad ar y cyd gyda Syr David McVicar.

Gwaith diweddar: Il trittico (Scottish Opera), Gabriel (Oxford Playhouse), Company of Elders (Sadlers Wells/ National Theatre), Il trovatore (ROH), Sandman (Cynorthwyydd i James Cousins, Netflix), Belfast (Cynorthwyydd i Aletta Collins, Kenneth Branagh), Death in Venice (Adfywiad Volksoper, Vienna).