Cwrdd â WNO

Gergely Madaras

Fe wnaeth Gergely, yr arweinydd o Hwngari, ddechrau astudio cerddoriaeth werin pan oedd yn bum mlwydd oed. Aeth yn ei flaen i astudio’r ffliwt, y feiolin a chyfansoddi, gan raddio yn Academi Liszt ym Mwdapest, yn ogystal â chyfadran arwain Prifysgol Gerdd a Chelfyddydau Perfformio Fienna, lle bu’n astudio gyda Mark Stringer. Ers 2019, mae Gergely Madaras wedi bod yn Gyfarwyddwr Cerdd yr Orchestre Philharmonique Royal de Liège. Gyda’i gilydd, maent wedi perfformio ledled Ewrop a De America. Yn y gorffennol, bu Gergely yn Gyfarwyddwr Cerdd yr Orchestre Dijon Bourgogne ac yn Brif Arweinydd Cerddorfa Symffoni Savaria. Fel arweinydd gwadd, mae uchafbwyntiau diweddar Gergely yn cynnwys gweithio gyda Cherddorfa Ffilharmonig Llundain, Cerddorfa Gŵyl Budapest, Symffoni NHK Tokyo, Philharmonia, Tonhalle-Orchester Zürich, Orchestre Philharmonique de Radio France, Cerddorfa Symffoni Dinas Birmingham, Cerddorfeydd Symffoni a Ffilharmonig y BBC, Cerddorfa Ffilharmonig Oslo, Orchestre Philharmonique de Monte-Carlo, Hallé, Orchestre National du Capitole de Toulouse, Orchestra della Svizzera Italiana, Cerddorfa Symffoni Fetropolitan Tokyo a Cherddorfa Symffoni Sao Paulo.