Cwrdd â WNO

Germán Enrique Alcántara

Mae’r bariton o’r Ariannin Germán Enrique Alcántara wedi graddio o Raglen Artistiaid Ifanc Jette Parker y Royal Opera House ac wedi perfformio fel Cownt Almaviva yng nghynhyrchiad newydd 2022 o The Marriage of Figaro o dan arweiniad Syr Antonio Pappano. Ym mis Ebrill 2024 recordiodd Simon Boccanegra ar gyfer Opera Rara ac mae hefyd wedi perfformio mewn cyngerdd ym Manceinion gyda’r Hallé Orchestra, dan arweiniad Syr Mark Elder. Mae wedi derbyn gwobr mewn nifer o gystadlaethau canu rhyngwladol, gan gynnwys Gwobr y Gynulleidfa yn Tenor Viñas 2021 yn Barcelona. Mae rolau blaenllaw eraill yn cynnwys rôl deitl Don Giovanni (Tel Aviv, San Diego), Marcello La bohème (WNO), a Belcore L’elisir d’amore (Teatro Colón, Buenos Aires). 

Gwaith diweddar: Albert Werther mewn cyngerdd yng Ngŵyl Klangvokal Dortmund, Enrico Lucia di Lammermoor yn y Royal Opera House a Deutsche Oper Berlin.