Cwrdd â WNO

Gillian Bevan

Mae Gillian Bevan yn actores, cantores, ysgrifenwraig, cynhyrchydd a chyfarwyddwr a dderbyniodd ei hyfforddiant yn y Central School of Speech & Drama. Mae Gillian wedi gweithio gyda RSC (Cymbeline Cymbeline, Celia As You Like It.) Ymhlith ei gwaith theatr arall mae: Polonia yn Hamlet (Actores Gynorthwyol Orau yn y Manchester Theatre Awards); Mrs Lovett yn Sweeney Todd a The Witch Into The Woods; Mrs Wilkinson Billy Elliot (West End, Gwobr Gynulleidfa Laurence Olivier), Mama Mizner yn sioe agoriadol Ewropeaidd Road Show gan Stephen Sondheim (Menier Chocolate Factory), cyngerdd pen-blwydd 80 oed Company ar gyfer Stephen Sondheim (Donmar Warehouse), My Fair Lady (Teatro San Carlo, Naples a Teatro Massimo, Palermo); Luciana yn The Boys from Syracuse (a gyfarwyddwyd gan Judi Dench.) Treuliodd Gillian dair blynedd gyda chwmni Theatre-in-the-Round Alan Ayckbourn. Mae wedi ymddangos mewn ffilmiau fel London Road a gyfarwyddwyd gan Rufus Norris, Polonia yn Hamlet yn y Royal Exchange, yn serennu Maxine Peake a Cymbeline yn y RSC. Ymhlith ei gwaith helaeth ar y teledu mae Teachers and The Windsors ar gyfer Channel 4; Ghostwatch a Holby City ar gyfer y BBC.

Mae Gillian yn un o sylfaenwyr Tights Assets Theatre lle bu’n naill ai cyfarwyddo, cyd-ysgrifennu a chynhyrchu dros 50 o ddramâu a darlleniadau ar gyfer BBC Radio 4 a Radio 5 Live. Ynghyd â Simon Green, cyd-gynhyrchodd Sunday with Sondheim yn y Shaftesbury Theatre a bu’n rhan o gyngerdd o Merrily We Roll Along a gyfarwyddwyd gan Julia McKenzie.

Gwaith diweddar: Hazel The Children gan Lucy Kirkwood (Theatre Royal Bury St Edmunds).