Cwrdd â WNO
Giorgio Caoduro
Trosolwg
Ganwyd Giorgio Caoduro ym Monfalcone, yr Eidal, ac astudiodd canu gyda’r soprano Cecilia Fusco. Yn hoff iawn o Mozart, perfformiodd Giorgio’r rôl deitl Le nozze di Figaro yn y Berlin Staatsoper, Deutsche Oper Berlin, Gŵyl Aix-en-Provence, y rôl deitl Don Giovanni yn Teatro Petruzzelli, Bari, a Papageno yn Die Zauberflöte yng Ngŵyl Sanxay. Enillodd wobr Australian Green Room yn 2012 fel cantor opera gwrywaidd gorau’r flwyddyn. Rhyddhawyd albwm Giorgio o ariâu Rossini, The Art of Virtuoso Baritone, yn 2021 ar Glossa.
Gwaith diweddar a’r dyfodol: Dulcamara L’elisir d’amore (Saatstheater Stuttgart); Bozzone Cublai Kahn (Theater an der Wien); Dandini La Cenerentola (Triste Teatro Verdi).