Cwrdd â WNO

Greg Eldridge

Cafodd y cyfarwyddwr llwyfan o Awstralia, Greg Eldridge, ei hyfforddiant i ddechrau yn Fflorens cyn ymuno â'r rhaglen Young Artist yn y Royal Opera House, lle cafodd ei benodi'n Gyfarwyddwr Cyswllt cyntaf Jette Parker. Fel cyn-Ysgolor Bayreuth, mae Greg wedi gweithio mewn tai rhyngwladol blaenllaw yn cynnwys Volksoper Wien, Scottish Opera, Guangzhou Opera House, Den Norske Opera, Houston Grand Opera, The Israeli Opera, Oper Frankfurt, The Icelandic Opera, Opera Australia, a Glyndebourne Festival Opera, gan ennill sawl gwobr gyfarwyddol. Mae Greg wedi'i hyfforddi fel Cyfarwyddwr Cyfeillach ac mae’n gyn-aelod bwrdd Stage Directors UK. Mae Greg yn Athro Cyfarwyddo opera ym Mhrifysgol Cincinnati, ac yn Gyfarwyddwr Gweithredol Opera Project Columbus, cwmni nid er elw sydd wedi ymrwymo i ailddarganfod gweithiau gan gyfansoddwyr Du ac Affricanaidd-Americanaidd.

Gwaith y dyfodol: Cylch y Ring gyda Syr David McVicar (La Scala, Milan); Cyfarwyddwr The Lodger (Oper Wuppertal).