Trosolwg
Darlunydd ac animeiddiwr Ffrengig yw Grégoire Pont. Nod ei gysyniad perfformio, ‘cinesthetics’, lle mae’n animeiddio perfformiad cerddorol yn fyw, yw gwneud cerddoriaeth glasurol yn fwy hygyrch. Mae wedi teithio ledled y byd gan gydweithio gydag arweinwyr fel Kazushi Ono, Kent Nagano, Alexandre Bloch, Marko Letonja a François-Xavier Roth. Mae Pont wedi derbyn canmoliaeth feirniadol am ei waith operatig: Der Mond o waith Orff, L’heure espagnole aL’enfant et les sortilèges o waith Ravel mewn cydweithrediad â’r cyfarwyddwr James Bonas ar gyfer Opéra National de Lyon. Mae ganddo hefyd gynyrchiadau animeiddiedig o Carmen gydag Orchestre National de Lille, Snow Queen yn Opéra National du Rhin a Hänsel und Gretel yn Cologne Opera. Mae Pont hefyd yn darlunio llyfrau plant, yn arbennig Les Excalibrius, ac wedi cynhyrchu animeiddiadau ar gyfer teledu, fideos byr addysgiadol a fideos cerddoriaeth - yn fwyaf diweddar, cydweithiodd â’r dawnsiwr bale My’Kal Stromile yn Catch me, New Studios.