Cwrdd â WNO

Guy Hoare

Mae Guy Hoare wedi bod yn dylunio goleuo ar gyfer dawns, theatr ac opera am dros 20 mlynedd. Wedi’i leoli yn Llundain ers 1998, mae Guy yn gweithio fel dylunydd llawrydd ond mae’n creu gwaith trwy gydol y DU ac ar draws y byd. Mae ei gredydau opera yn cynnwys gwaith yn the Met, y Royal Opera House, English National Opera, Scottish Opera, Bregenz Festival a’r National Theatre, Brno; hefyd bu’n dylunio sawl cynhyrchiad ar gyfer English Touring Opera, gan gynnwys King Priam a Paul Bunyan yn ystod Tymor 2014 a enillodd wobr Olivier. Mae ei ddyluniadau ar gyfer dawns yn cynnwys The Metamorphosis Arthur Pita a Dracula Mark Bruce a enillodd Wobr South Bank ar gyfer Dawns yn 2012 a 2014. Yn bresennol, mae Guy yn Artist Cyswllt yn Wilton’s Music Hall yn Llundain.

Gwaith diweddar: The Grapes of Wrath (National Theatre); My Fair Lady (Opera North / Leeds Playhouse); Carmen (Met Opera); Portia Coughlan (Almeida).