Trosolwg
O Lanbedrgoch, Ynys Môn, daw Gwyn Hughes Jones, ac fe’i hyfforddwyd yn y Guildhall School of Music & Drama. Gwnaeth ei ymddangosiad proffesiynol cyntaf yn 1995 gyda WNO fel Ismaele yn Nabucco a dwy flynedd yn ddiweddarach cynrychiolodd Gymru yng nghystadleuaeth BBC Canwr y Byd Caerdydd. Ers hynny, mae Jones wedi perfformio yn llawer o dai opera mwyaf y byd, gan gynnwys y Metropolitan Opera yn Efrog Newydd ac I’Opéra national de Paris. Dychwelodd i Ynys Môn yn 2017 fel Cyfarwyddwr Cerdd Cyngerdd Gala Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Gwaith diweddar: Radames Aida (Irish National Opera); Mario Cavaradossi Tosca, Don Alvaro La forza del destino (WNO); Walther von Stolzing Die Meistersinger von Nürnberg (Royal Opera)