Haegee Lee
Trosolwg
Yn wreiddiol o Gorea, hyfforddodd Haegee Lee ym Mhrifysgol Genedlaethol Seoul a Conservatoire National de Région Pierre Barbizet, Marseilles. Roedd yn aelod o’r rhaglen Artistiaid Ifanc Jette Parker y Royal Opera House lle roedd ei rolau’n cynnwys Frasquita Carmen, Sandman Hänsel und Gretel, Papagena Die Zauberflöte a Xenia Boris Godunov.
Mae ei gwobrau’n cynnwys y Wobr Gyntaf yn y Concours de Bach, Marseilles, a’r Ail Wobr yn y Korean Classical Singers Association International Vocal Competition, Seoul. Mae’n artist Samling, ac mae ei gwaith diweddar wedi cynnwys Frasquita Carmen, Musetta La bohème a Gilda Rigoletto (WNO), Brenhines Tye Akhnaten (ENO) a’r Classical Concert yn Leeds Castle 2023 gyda’r Royal Philharmonic Orchestra.
Gwaith y dyfodol: Tytania A Midsummer Night’s Dream (Korea National Opera), rôl deitl Lakmé (Chelsea Opera Group) a Violetta La traviata.