Hanna Hipp
Mae Hanna Hipp wedi perfformio am y tro cyntaf mewn rolau allweddol yn ystod tymhorau diweddar, gan gynnwys Dorabella (Così fan tutte) ar gyfer Seattle Opera ac, ac yn helaeth, Octavian (Der Rosenkavalier) ar gyfer Garsington Opera. Yn Nhymor 2022/2023, chwaraeodd Hanna brif rôl Offred yn A Handmaid’s Tale (Royal Danish Theatre) gan Poul Ruders. A hithau’n aelod blaenorol o Raglen Jette Parker y Royal Opera House, ymhlith ei huchafbwyntiau diweddar ar y brif lwyfan y mae Magdalene (Die Meistersinger von Nürnberg) a Cherubino (Le nozze di Figaro) o dan Syr Antonio Pappano, ynghyd â’i pherfformiad cyntaf yn rôl Hänsel yn Hänsel und Gretel. Mae ei pherfformiadau cyntaf eraill ar lwyfannau rhyngwladol yn cynnwys y rheiny yn Teatro Real Madrid fel Frances, Countess of Essex (Gloriana) ac Isolier (Le Comte Ory) a Beatrice (Beatrice and Benedict) ar gyfer Seattle Opera.