
HoWang Yuen
Cafodd y bariton HoWang Michael Yuen ei eni a’i fagu yn Hong Kong ac enillodd BMusic yn Academi’r Celfyddydau Perfformio yn Hong Kong. Yn ddiweddarach, astudiodd yn y Royal Birmingham Conservatoire ar gyfer ei MMusic mewn Perfformio Lleisiol, gan raddio gydag anrhydedd. Mae wedi astudio gyda Gwion Thomas, David Quah, Isabel Gentile, Roberto Abbondanza, Robin Bowman a Hsu Wei-en. Mae ei berfformiadau yn y gorffennol yn cynnwys Malatesta yn Don Pasquale, Papageno (artist llanw) yn The Magic Flute, Lysander yn The Enchanted Island, Luther/Crespel yn The Tales of Hoffmann, Spinelloccio/Pinellino yn Gianni Schicchi a LiuHong yn The Monk of the River (Tête à Tête). Mewn cynyrchiadau eraill, mae hefyd wedi perfformio fel Sid yn Albert Herring, Pélleas yn Pélleas et Mélisande, Belcore yn The Elixir of Love, Hamlet yn Hamlet, Guglielmo yn Cosí fan tutte a Don Giovanni yn Don Giovanni. Ymhellach, roedd HoWang yn aelod o Gôr Siambr y Royal Birmingham Conservatoire ac mae’n un o sylfaenwyr y grŵp lleisiol gwobrwyol Signo. Ef hefyd oedd arweinydd The Greeners’ Sound, sef cymdeithas gorawl yn Hong Kong.